Description
Reviews
Os oes gennych rywfaint o ddiddordeb mewn hanes diweddar, yn arbennig 30au a 40au'r ganrif ddiwethaf, ac yn mwynhau stori garu dda, yna mae hon yn nofel y dylech ei darllen. Wedi dweud taw stori garu sydd yma, mae'r nofel yn llawer mwy na hynny - mae'n gofnod cymdeithasol o Brydain y cyfnod, mae'n wleidyddol, mae'n llawn gwrthdaro. Y man cychwyn yw carwriaeth Sian a George - y naill o Gwm Rhondda a'r llall o Lundain, un ohonynt o gefndir dosbarth gweithiol a'r llall o deulu tipyn mwy breintiedig, (yn ariannol, beth bynnag). Maent yn cyfarfod mewn coleg yn Llundain, y ddau yn gerddorion. Mae'r garwriaeth yn un llawn heriau, a'r darllenydd yn cael cip ar emosiynau amrwd iawn y par ifanc. "Felly stori garu ddigon cyffredin," meddech chi. Efallai wir, ond yr hyn sy'n codi'r nofel hon i dir uwch yw cyfoeth yr hanes sy'n cael ei wau'n gelfydd drwy'r plot. Mae ol gwaith ymchwil manwl ar y nofel a hynny i'w ganmol. Er enghraifft, ceir cyfeiriad at ffatrioedd ffrwydron yr Ail Ryfel Byd a gwaith merched yno; ond nid cyfeiriad yn unig a geir, manylir ar effaith y defnyddiau crai ar iechyd y merched. Mae cyfyngderau a heriau eraill y rhyfel yn rhan bwysig o'r nofel, yn creu naws arbennig y cyfnod. Down i adnabod dwy ifaciwi ifanc a'u ciamocs wrth iddynt ymgartrefu yn y Cwm, blaswn y bwyd plaen a theimlwn effaith y dogni, darllenwn gyda'r glowyr yn y Miners Institute a theimlwn eu hawch am addysg a chyfiawnder, a chydymdeimlwn a'r merched yn eu dawnsfeydd un-rhyw. Yn sgil diddordeb y gantores Sian mewn canu mae miwsig y cyfnod hefyd i'w glywed. Ond mae hanes cyfraniad y Brigadau Rhyngwladol i Ryfel Cartref Sbaen a'r ymdrech i sicrhau Sbaen Weriniaethol a Democrataidd yn fwy anghyfarwydd ac yn wirioneddol ddifyr. Mae'n ffaith fod nifer o lowyr de Cymru, dan effaith y Blaid Gomiwnyddol, wedi gadael y wlad yn anghyfreithlon er mwyn ymuno a'r lluoedd yma. Yn y nofel hon mae un o frodyr Sian yn gwneud hynny a daw'r hanes yn fyw yn sgil ei brofiad e. Mae'r nofel hon yn bytiog o ran arddull, ond nid cwyn yw hon. Symudwn o stori Sian i stori George, a chawn deithio o Lundain i'r Rhondda, o glwb nos i gapel, a'r cyfan hyn yn gwneud y darllen yn hawdd a hwylus. Pe na bai'r disgrifiadau o'r strydoedd cul, y tipiau glo, y Stiwt a'r capeli di-ri yn ddigon i leoli llawer o'r stori yng Nghwm Rhondda, mae'r dafodiaith sy'n britho'r nofel (a hynny heb ei gwneud yn nofel anghyraeddadwy i'r rhelyw), yn glo ar y cyfan. A ninnau'n byw mewn oes lle mae tafodiaith ar drai, mae darllen nofel fel hon yn atgoffa rhywun mor bert y gall y dweud fod, a chymaint y cyfoethogir y Gymraeg o roi parch i iaith lafar amrywiol ein hardaloedd. Gobeithio y cawn nofel arall yn fuan gan Gareth Thomas - melys moes mwy. -- Dana Edwards @ www.gwales.com
Book Information
ISBN 9781913996697
Author Gareth Thomas
Format Paperback
Page Count 280
Imprint Gwasg y Bwthyn Cyf
Publisher Gwasg y Bwthyn Cyf
Dimensions(mm) 200mm * 130mm * 14mm