Description
Reviews
Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, sy'n gwneud yn union beth y mae'r teitl yn ei awgrymu - adrodd 10 o straeon o'n hanes ni fel Cymry, o'r canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wedi'u hysgrifennu gan yr awdur a'r sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, a'u darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 a'r llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd. Wedi dweud hynny, mae'r gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal a chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndwr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddoli'n fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest o'r hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Mae'r awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehongli'r hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y mor-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud a materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer o'r hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond mae'r wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth ati'n fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gyda'r bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace - gwyddonydd o Gymru a fu'n gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod. Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro sy'n cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, o'r Mabinogi i dywysogion Cymru, mor-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal a'r brwydrau a'r ffigyrau gwleidyddol a fu'n rhan o'n hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol -'Cymru Drwy'r Oesoedd' - sy'n dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol sy'n ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb son am restr o eiriau defnyddiol sy'n ddiweddglo i'r gyfrol. Ac mae'r cyfan wedi'i ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn. Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com
Book Information
ISBN 9781849675413
Author Ifan Morgan Jones
Format Hardback
Page Count 48
Imprint Rily Publications Ltd
Publisher Rily Publications Ltd
Dimensions(mm) 259mm * 235mm * 50mm