null

Recently Viewed

New

Tonfedd Heddiw: Casia Wiliam by Casia Wiliam 9781911584377

No reviews yet Write a Review
£6.13

  Delivery: We ship to over 200 countries!
  Range: Millions of books available
  Reviews: Booksplease rated "Excellent" on Trustpilot

SKU:
9781911584377
Weight:
147.00 Grams
Available from Booksplease!
Availability: Usually dispatched within 2 working days

Frequently Bought Together:

Total: Inc. VAT
Total: Ex. VAT

Description

Her first volume of poetry for adults by Casia Wiliam, comprising sensitive poems responding to the brittleness of life and the passage of time - from the first sweet kiss that disappears in a second to the mystical feelings that stay with us forever.
Reviews
Mae popeth am gyfrol farddoniaeth gyntaf Casia Wiliam yn gryno, o faint y llyfr a hyd mwyafrif y cerddi i deitlau'r cerddi hynny. Ond crynoder llawn sylwedd yw ei hanfod. Eiliad ac Einioes yw'r ddiweddaraf i'w chyhoeddi yn y gyfres Tonfedd Heddiw Barddas sydd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi llwyfan i leisiau beirdd ifanc a rhywbeth i'w ddweud a'r ddawn i'w ddweud yn gofiadwy. Ond dywed Casia yn ei chyflwyniad i'r cerddi hyn - 35 ohonynt - ei bod wedi cymryd cryn amser iddi hi fagu'r plwc i gyhoeddi ei chasgliad cyntaf, er bod ganddi sylfeini i ymfalchio ynddynt. Bu'n aelod cynhyrchiol o dim Y Ffoaduriaid ar Y Talwrn am rai blynyddoedd a hi oedd Bardd Plant Cymru 2017-19. Yn ystod y cyfnod hwnnw dangosodd fod ganddi'r ddawn ddiamheuol i ysbrydoli plant yn ogystal ag i gyffwrdd calonnau o bob oed drwy ei hawen. Clywn awgrym o feirniadaeth nawddoglyd weithiau wrth i ambell un ddefnyddio'r ansoddair 'domestig' i ddisgrifio darn o lenyddiaeth. Ond onid wrth ein traed, yn y manion bob dydd, y gwelwn ni fywyd a'i holl gymhlethdodau yn eglurach nag yn unman arall? Mae mwyafrif y cerddi yn y gyfrol hon a'u gwreiddiau yn y tir ffrwythlon hwnnw, fel y gerdd i 'Nain Fron Olau' lle mae gwylio dillad yn sychu ar y lein yn dwyn i gof hanes brwydr nain y bardd a dementia, ac yn cynrychioli cyfle i'w hwyres bellach weld patrymau gwreiddiol y dillad fu'n 'poetsio'i gilydd' yn ystod y salwch creulon: 'Blows, yn gwmni ac yn gapel i gyd,/ a choban efo ogla straeon nos da/ yn dal i swatio ynddi.' Ciplun cynnes o sgwrs rhwng ei gwr a'u mab hynaf, yn ei ail iaith, a gawn ni yn 'Pupur Coch': 'Mae wedi creu stori sy'n pefrio yn y llygaid teirblwydd'. Nid fod y profiad o fagu plant yn fel i gyd. Mae'n hen thema, ond mae delweddau Casia yn y gerdd 'Dileu' yn ffres ac yn cyfleu'r ymdeimlad o golli hunaniaeth oherwydd gofynion babi ifanc i'r dim: 'Pan fydda i'n estyn bron yn lle beiro,/ yn gwthio coetsh yn lle reidio beic,/ yn trafod Calpol yn lle straeon nos Sadwrn.' Ar y llaw arall mae ei hymateb cadarnhaol, er gwaethaf ei blinder, i'r cwestiwn 'Tisio chwarae efo fi, Mam?' yn chwerw felys oherwydd ei hymwybod o dreigl amser, tra bod teimlo ei hail blentyn yn cicio yn y groth drannoeth Etholiad Cyffredinol 2019 yn ysbrydoliaeth iddi hithau gicio yn erbyn y tresi gwleidyddol. Portread cynnil o'r hen ddywediad 'Drwy gicio a brathu mae cariad yn magu' a gawn yn 'Brwnt' lle mae tynerwch yn llenwi'r bylchau rhwng llinellau 'Llonydd', toc wedi ffrae rhwng dau, a'i defnydd crefftus o ddelweddau: 'Rwyt ti'n dangos ffawydden i mi,/ ei mes, ei dail main,/ dy lais yn dawel/ fel yr egwyl rhwng penillion emyn.' Mae mwy nag un gerdd yn son am effaith llesol ymwneud a byd natur, fel 'Nofio milltir' a 'Cae Pawb', er enghraifft. Yn yr olaf mae'r bardd yn croesawu'r cyfle i 'drafod y diwrnod/ efo 'nwylo'. Dotiais at y disgrifiad o swn y beic wrth iddi deithio i'r rhandir: 'Y tsiaen yn udo, a'r swn newid-ger-dolur-gwddw/yn rhygnu'. A hithau wedi gweithio i elusennau fel Oxfam yn y gorffennol ac yn gweithio bellach i'r Disaster Emergency Committee (DEC) daw cydymdeimlad y bardd a'r rhai sy'n dioddef amgylchiadau byw dirdynnol mewn sawl rhan o'r byd i'r golwg mewn nifer o'r cerddi eraill. Dyna 'Daeargryn', er enghraifft, sy'n cyferbynnu lluniau o drychineb Nepal a wel ar sgrin deledu mewn ystafell aros ysbyty a'r darlun sgan o'i phlentyn yn y groth yn fuan wedyn: 'Mae dagrau'n cosi fy nghlustiau/ wrth i'r ddaear grynu.' Trawiadol hefyd yw'r cyferbyniad rhwng llawnder y Gorllewin a thlodi llwglyd y Trydydd Byd yn 'Cacen'. Cerdd gomisiwn ar ffurf rhigwm ac yn llais plentyn yw'r 'Ti' teimladwy sy'n dathlu pen-blwydd y GIG yn 70 oed. Ac mor addas, o ystyried naws gyffredinol y gyfrol hon, mai 'Darnau bach, darlun mawr' yw teitl cerdd gomisiwn arall sy'n dathlu canmlwyddiant sefydlu elusen Achub y Plant. Os bu 'neuadd fawr rhwng cyfyng furiau' erioed, yn sicr mae i'w chael yn helaeth rhwng cloriau cryno Eiliad ac Einioes. -- Annes Glynn @ www.gwales.com



Book Information
ISBN 9781911584377
Author Casia Wiliam
Format Paperback
Page Count 56
Imprint Cyhoeddiadau Barddas
Publisher Cyhoeddiadau Barddas

Reviews

No reviews yet Write a Review

Booksplease  Reviews


J - United Kingdom

Fast and efficient way to choose and receive books

This is my second experience using Booksplease. Both orders dealt with very quickly and despatched. Now waiting for my next read to drop through the letterbox.

J - United Kingdom

T - United States

Will definitely use again!

Great experience and I have zero concerns. They communicated through the shipping process and if there was any hiccups in it, they let me know. Books arrived in perfect condition as well as being fairly priced. 10/10 recommend. I will definitely shop here again!

T - United States

R - Spain

The shipping was just superior

The shipping was just superior; not even one of the books was in contact with the shipping box -anywhere-, not even a corner or the bottom, so all the books arrived in perfect condition. The international shipping took around 2 weeks, so pretty great too.

R - Spain

J - United Kingdom

Found a hard to get book…

Finding a hard to get book on Booksplease and with it not being an over inflated price was great. Ordering was really easy with updates on despatch. The book was packaged well and in great condition. I will certainly use them again.

J - United Kingdom