null

Recently Viewed

New

Sgythia - Hanes John Dafis, Rheithor Mallwyd by Gwynn ap Gwilym

No reviews yet Write a Review
£13.29

  Delivery: We ship to over 200 countries!
  Range: Millions of books available
  Reviews: Booksplease rated "Excellent" on Trustpilot

SKU:
9781907424984
Weight:
526.00 Grams
Available from Booksplease!
Availability: Usually dispatched within 2 working days

Frequently Bought Together:

Total: Inc. VAT
Total: Ex. VAT

Description

An historical novel which follows the life and times of John Dafis, rector at Mallwyd at the beginning of the seventeenth century, and a leading grammarian, lexicographer, translator and editor. The author skilfully combines fact and fiction, bringing the area and its characters alive. Reprint. First Published in 2017.
Reviews
Ceir digonedd o gyfeiriadau pur sarhaus mewn testunau clasurol at y Scythiaid - gan yr Apostol Paul, er enghraifft, yn ei epistol at y Colosiaid (ac addas yw dyfynnu o'r hen gyfieithiad yma): "Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth." Gan Shakespeare, yntau, yn Y Brenin Llyr, sonnir am 'the barbarous Scythian'. Heddiw, wrth i archaeoleg ein haddysgu'n well am y bobl hynny, cywirach yw meddwl am drigolion Sgythia, yr ardal sy'n cyfateb yn fras i rai o'r gwladwriaethau a arferai berthyn i orllewin yr Undeb Sofietaidd, fel pobl anrhydeddus, gyfoethog eu harferion, a oedd yn ymladdwyr da ac yn grefftwyr tan gamp. Beth sydd gan hyn oll i'w wneud a nofel olaf y diweddar Gwynn ap Gwilym, meddech chi? Wel, Sgythia yw'r llysenw a ddefnyddir gan yr awdur i gyfeirio at Fawddwy, yr ardal wledig, wyllt lle saif pentrefi Mallwyd a Dinas Mawddwy heddiw, a lleoliad y nofel eithriadol hon. Hanes un o drigolion mwyaf nodedig pentref Mallwyd, ac un y cysylltir ei enw'n ddiwahan a'r lle cyhyd ag y bo Cymry, a geir yn y nofel, sef yr ysgolhaig, yr offeiriad a'r cymwynaswr mawr o'r ail ganrif ar bymtheg, Dr John Davies. Pan benodwyd John Davies yn rheithor plwyf Mallwyd, ystyriwyd ei fod wedi'i anfon i ganol barbariaid, ac i ddiffeithwch diwylliannol a deallusol - heb son am fod yn lle peryglus ar y naw, a Gwylliaid Cochion Mawddwy yn dal i lechu yn y coed. I'r lle diarffordd a thlodaidd hwn daeth John Davies a phregethu grymus, dysg a doethineb enfawr, gan sefyll yn gadarn yn erbyn Pabyddiaeth - yr 'hen goel' - ac ofergoeliaeth ar adeg pan oedd yr eglwys wladol a'r Frenhiniaeth, dau sefydliad llawer mwy dylanwadol a grymus nag ydynt heddiw, mewn trybestod llwyr, a llywio cwrs gofalus rhwng creigiau llymion gwleidyddiaeth yr Eglwys a'r bonedd a drwgdybiaeth y werin leol. Ac yntau'n hirben a siriol yn wyneb siomedigaethau lu, adeiladodd John Davies ddinas dysg ym mherfeddwlad fynyddig Cymru, gan godi tai, pontydd ac eglwys sy'n gofadail barhaus iddo hyd heddiw. Ond ei wir etifeddiaeth yw ei waith - yn bennaf, addasiad John Davies o Feibl William Morgan a ddefnyddiwyd yn gyffredin rhwng 1620 a 1988 gan y Cymry, a gosodwyd seiliau'r Gymraeg fodern gan ei Ramadeg a'i Eiriadur Cymraeg-Lladin, heb son am ei waith yn casglu a diogelu cerddi'r beirdd canoloesol. Yn wir, gellid honni'n ddigon hyderus mai diolch i'r Doctor Dafis yr ydym ni'n dal i siarad, ysgrifennu a thrysori'r iaith heddiw. Lle digon dieithr yw Mallwyd yn negawdau cyntaf y 1600au, ac eto, nid yw'r darllenydd yn cael ei ddieithrio oddi wrtho, gystal yw gafael yr awdur ar ei destun, gan mor llwyr gyfarwydd ydyw a'r ardal (bu Gwynn ap Gwilym ei hun yn Rheithor Mallwyd am gyfnod), a chan mor fain yw ei glust at sgwrs gwreng a bonedd - ac at eu hiwmor. Mae hi'n glamp o nofel, yn llawn hyd at y distiau pren neu'r tyweirch mawn o gymeriadau lliwgar. Cynhwyswyd rhestr o gymeriadau ar y dechrau, ac fe allai pori drwy honno cyn bwrw iddi i ddarllen godi braw; peidiwch a digalonni, mae'r awdur yn feistr corn ar ei grefft ac mae hi'n ddigon hawdd cofio pwy yw pwy, a sut maen nhw'n perthyn i'w gilydd ac i'r hanes. Mae'n biti garw nad oes modd anrhydeddu awduron a gwobr Llyfr y Flwyddyn ar ol eu marwolaeth; nid oes amheuaeth y dylai Sgythia hawlio'i lle ymysg nofelau gorau 2018, onid y degawd ar ei hyd. Prin fod nofel hanesyddol arall a all ddal cannwyll iddi. Ysywaeth, ni chaniateir hynny. Y gymwynas orau y gellir ei thalu a'r diweddar Gwynn ap Gwilym felly yw darllen ei nofel, ei chymeradwyo i'ch cydnabod, a rhyfeddu lawn cymaint at gamp yr awdur yn yr unfed ganrif ar hugain ag at gampau ei wrthrych, bedwar can mlynedd yn ol. -- Bethan Mair @ www.gwales.com



Book Information
ISBN 9781907424984
Author Gwynn ap Gwilym
Format Paperback
Page Count 390
Imprint Gwasg y Bwthyn
Publisher Gwasg y Bwthyn

Reviews

No reviews yet Write a Review

Booksplease  Reviews


J - United Kingdom

Fast and efficient way to choose and receive books

This is my second experience using Booksplease. Both orders dealt with very quickly and despatched. Now waiting for my next read to drop through the letterbox.

J - United Kingdom

T - United States

Will definitely use again!

Great experience and I have zero concerns. They communicated through the shipping process and if there was any hiccups in it, they let me know. Books arrived in perfect condition as well as being fairly priced. 10/10 recommend. I will definitely shop here again!

T - United States

R - Spain

The shipping was just superior

The shipping was just superior; not even one of the books was in contact with the shipping box -anywhere-, not even a corner or the bottom, so all the books arrived in perfect condition. The international shipping took around 2 weeks, so pretty great too.

R - Spain

J - United Kingdom

Found a hard to get book…

Finding a hard to get book on Booksplease and with it not being an over inflated price was great. Ordering was really easy with updates on despatch. The book was packaged well and in great condition. I will certainly use them again.

J - United Kingdom