null

Recently Viewed

New

Rhywbeth i'w Ddweud - 10 o Ganeuon Gwleidyddol 1979-2016 by Elis Dafydd

No reviews yet Write a Review
£8.96

  Delivery: We ship to over 200 countries from the UK
  Range: Millions of books available
  Reviews: Booksplease rated "Excellent" on Trustpilot

  FREE UK DELIVERY: When you buy 3 or more books on Booksplease - Use code: FREEUKDELIVERY in your cart!

SKU:
9781911584049
Available from Booksplease!
Availability: Usually dispatched within 2 working days

Frequently Bought Together:

Total: Inc. VAT
Total: Ex. VAT

Description

A volume by various contributors that looks at the power of words by exploring 10 influential political Welsh songs recorded between 1979 and 2016. How essential was politics to the Welsh rock scene during the past 30 years and to what extent did these songs challenge the attitudes of the time?
Reviews
CYFRANWYR Y GYFROL: Un o Gymry Llundain yw Ifor ap Glyn ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon lle mae'n gweithio fel cynhyrchydd teledu. Ers 2016, ef yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae Pwyll ap Sion yn gyfansoddwr ac yn Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi cyhoeddi ac ymchwilio'n helaeth ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru. Bardd a chynhyrchydd teledu yw Nici Beech. Mae'n gapten ar dim Talwrn Criw'r Ship, yn awdur llyfr ryseitiau, Cegin, ac yn un o sylfaenwyr a threfnwyr Gwyl Fwyd Caernarfon, Gwyl Arall a Noson Pedwar a Chwech. Bardd yw Elis Dafydd. Mae'n awdur cyfrol o gerddi, Chwilio am Dan(Cyhoeddiadau Barddas, 2016) ac ar hyn o bryd mae'n ymchwilio i waith John Rowlands fel rhan o gwrs doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Bu Hefin Jones yn cadw tafarn Ty Newydd, Sarn, pan oedd y lle hwnnw yn un o leoliadau gigs mwyaf poblogaidd y gogledd-orllewin. Yn dilyn hynny bu'n gweithio i'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig. Mae'n un o un o gyfarwyddwyr label Sbrigyn Ymborth. Bardd, ymchwilydd a pherfformiwr yw Aneirin Karadog. Bu'n aelod o'r Genod Droog a'r Diwygiad ac mae wedi cyfrannu at amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady. Bu hefyd yn rhan o brosiect Y Datgyfodiad, a greodd albym gysyniadol am Sombis. Griff Lynch yw prif leisydd Yr Ods. Mae'n cynhyrchu'r rhaglen gerddoriaeth, Ochr 1 ar S4C ac ef oedd yn gyfrifol am Canu Protest Merched Mewn Pop (Radio Cymru) oedd yn edrych ar gyfraniad merched i'r byd cerddorol Cymraeg a rhyngwladol ar hyd y degawdau. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Wrth glywed am ddyfodiad y gyfrol yma gyntaf, rhaid cyfaddef 'mod i wedi gwingo rhywfaint. Mae 'canu gwleidyddol Cymraeg' yn bwnc sydd wedi ei drafod hyd syrffed dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn ofni mai'r un hen drafodaeth flinedig fyddai yma eto ynglyn ag oes aur y canu protest a sut mae hynny wedi diflannu dros y blynyddoedd diwethaf. Rhyddhad mawr, felly, oedd darganfod cyfrol oedd yn cynnig dehongliad ychydig bach yn wahanol, a chyfres o gyfraniadau difyr a dadlennol yn trafod beth sy'n gwneud can wleidyddol. Ac mae'r farn yn amrywio. Ydyn, mae rhai o'r usual suspects yma, y caneuon amlwg - 'Gwesty Cymru' gan Geraint Jarman, 'Tan yn Llyn' gan Plethyn ac wrth gwrs 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan ac Ar Log - ond mae hyd yn oed yr ysgrifau am y rhain yn cynnig onglau newydd sy'n gwneud i chi feddwl eto am eu negeseuon. Mae'r fformat yn helpu: y cyfranwyr sy'n dewis y caneuon maen nhw'n eu trafod, yn hytrach na thestun wedi'i osod gan y golygyddion. Mae'r blynyddoedd dan sylw yn helpu hefyd, 1979-2016, cyfnod sy'n dilyn 'oes aur' y canu protest Cymraeg traddodiadol. Wedi dweud hynny, dyma gyfnod sy'n pontio dau refferendwm datganoli go wahanol, ynghyd a dwy lywodraeth Doriaidd lawdrwm. Gwir lwyddiant y gyfrol ydy'r caneuon annisgwyl sy'n cyrraedd y rhestr, yn enwedig efallai'r rhai mwyaf diweddar sy'n cloi'r casgliad o ysgrifau. Mae Dyl Mei yn fwy cyfarwydd am ei sylwadau bachog ar raglen Tudur Owen, ond yma mae wedi cyflwyno chwip o ddadansoddiad treiddgar o'r hit feiral, 'Talu Bills' gan Rodney Evans. Cysylltir canu gwleidyddol Cymraeg yn aml a brwydr yr iaith, ond mae hon, a sawl ysgrif arall yn y gyfrol, yn dangos bod ystod llawer ehangach gan ein cerddorion. Ac yna mae darn Nici Beech, yn trafod 'Cyn i'r lle 'ma gau' gan y Bandana, yn dangos sut gall dehongliad y gwrandawr o gan amrywio. Go brin bod llawer wedi ystyried hon fel can wleidyddol cyn hyn, ond mae ymdriniaeth ardderchog Nici yn sicr yn gwneud i chi feddwl ddwywaith am neges caneuon. Dyma lwyddiant y gyfrol i mi - mae'n gwneud i chi feddwl am ganeuon na fyddech chi, efallai, heb lawn ystyried eu neges yn flaenorol, gan hefyd wfftio'r honiad nad oes sylwebaeth wleidyddol yng nghaneuon ein cerddorion ifanc. -- Owain Schiavone @ www.gwales.com



Book Information
ISBN 9781911584049
Author Hywel Griffiths
Format Paperback
Page Count 104
Imprint Cyhoeddiadau Barddas
Publisher Cyhoeddiadau Barddas

Reviews

No reviews yet Write a Review

Booksplease  Reviews


J - United Kingdom

Fast and efficient way to choose and receive books

This is my second experience using Booksplease. Both orders dealt with very quickly and despatched. Now waiting for my next read to drop through the letterbox.

J - United Kingdom

T - United States

Will definitely use again!

Great experience and I have zero concerns. They communicated through the shipping process and if there was any hiccups in it, they let me know. Books arrived in perfect condition as well as being fairly priced. 10/10 recommend. I will definitely shop here again!

T - United States

R - Spain

The shipping was just superior

The shipping was just superior; not even one of the books was in contact with the shipping box -anywhere-, not even a corner or the bottom, so all the books arrived in perfect condition. The international shipping took around 2 weeks, so pretty great too.

R - Spain

J - United Kingdom

Found a hard to get book…

Finding a hard to get book on Booksplease and with it not being an over inflated price was great. Ordering was really easy with updates on despatch. The book was packaged well and in great condition. I will certainly use them again.

J - United Kingdom