Dyma'r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru - Sianel Pedwar Cymru - sy'n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau'r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu'n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio'r sialensiau, y llwyddiannau a'r methiannau fu'n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai'n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o'r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i'w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i'w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy'n ymddangos yn gynyddol ansicr.
About the AuthorMae Dr Elain Price yn Ddarlithydd ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.
Book InformationISBN 9781783168880
Author Elain PriceFormat Paperback
Page Count 336
Imprint Gwasg Prifysgol CymruPublisher University of Wales Press