Dyma gyfrol sy'n rhoi darlun o fywyd a gwaith y ffisegydd o Gymro, yr Athro Evan James Williams, gwr a gafodd ei ddisgrifio fel un o'r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed ac fe'i cydnabyddid fel arbrofwr dyfeisgar a damcaniaethwr disglair. Cymerodd ran flaenllaw yn y chwyldro a ddigwyddodd yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif gyda datblygiad ffiseg cwantwm. Cydweithiodd gyda'r arloeswyr (nifer ohonynt yn enillwyr gwobr Nobel) a gwnaeth gyfraniad nodedig ym maes gwrthdrawiadau atomig ac yn narganfyddiad gronyn elfennol newydd. Ym 1939, ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor a chyflawnodd waith gorchestol. Amlygir ei alluoedd di-gymar yn y gyfrol hon, a chyflwynir yn ogystal ddarlun o gymeriad hoffus a thwymgalon na gollodd ei ymlyniad na'i gariad tuag at fro ei febyd a'i diwylliant.
About the AuthorMae Rowland Wynne yn ysgolhaig annibynnol gyda chefndir mewn ffiseg. Sbardunwyd ei ddiddordeb yn Evan James Williams gan ymweliad ag Archif Niels Bohr ym Mhrifysgol Copenhagen.
Book InformationISBN 9781786830722
Author Rowland WynneFormat Paperback
Page Count 192
Imprint University of Wales PressPublisher University of Wales Press