Description
Reviews
Gwerth y llyfr yw ei naws amrwd a byrfyfyr a'r teimlad a rydd inni o ddarllen am bethau sy'n digwydd ar y pryd...mae'r testun yn darllen yn naturiol ac yn heini fel petai'r Gymraeg yn famiaith i Anne Frank Mihangel Morgan, Taliesin Mae'n gyfieithad rhagorol...hynodrwydd y dyddiadur yw ei fod wedi ei ysgrifennu gan ferch bedair ar ddeg oed...dim ond ychwanegu at ei werth a wna'r fersiwn estynedig yma...mae'n ychwanegiad pwysig i'r deunydd sydd ar gael yn y frwydr barhaus yn erbyn Ffasgaeth Angharad Tomos, Llais Llyfrau Addasiad graenus...rydw i'n teimlo fy mod wedi dod I adnabod Anne Frank yn well R.O. Williams, Golwg Gyda'r addasiad celfydd hwn...gallwn synhwyro o'r newydd wedd ar bersonoliaeth Anne a gadwyd o dan gaead hyd yma...y gwir amdani yw bod holl ddyddiadura Anne yn galeidoscop o ddaioni a drygioni y natur ddynol ac yn rhoi inni ddrych o gyfnod ac o gymeriadau y gallwn i gyd eu hadnabod Menna Elfyn, Barn
Book Information
ISBN 9781899869015
Author Anne Frank
Format Paperback
Page Count 269
Imprint Gwasg Addysgol Cymru
Publisher Gwasg Addysgol Cymru
Weight(grams) 355g
Dimensions(mm) 215mm * 135mm * 20mm