Description
Reviews
Pleser yw cael croesawu o'r diwedd cofiant sylweddol a chytbwys ei farn i un o gewri gwleidyddol mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'n astudiaeth hollbwysig. Roedd yr awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda am nifer fawr o flynyddoedd ac yn gyfaill mynwesol iddo am ddegawdau lawer. Y mae'n gwerthfawrogi ei rinweddau, ei gryfderau a'i gyfraniadau mewn sawl cyfeiriad gwahanol. Yn dilyn ei farwolaeth yn 93 mlwydd oed yn 2017 daeth archif bwysig o'i bapurau i'r Llyfrgell Genedlaethol, a Ben Rees oedd un o'r ymchwilwyr cyntaf i wneud defnydd helaeth ohonynt ar gyfer y llyfr hwn. Mae'r archif yn cynnwys yn arbennig gohebiaeth ddadlennol a diddorol. Mae'r cofiant hefyd yn seiliedig ar waith ymchwil manwl mewn nifer fawr o archifau pwysig eraill. Ac, yn hollol wahanol i Jim Griffiths, Aneurin Bevan a Cledwyn Hughes, sef y gwleidyddion y mae'r Dr D. Ben Rees wedi llunio cofiannau sylweddol iddynt yn barod (gan gynnwys cofiant i Griffiths yn y Saesneg yn ogystal), nid gwleidydd proffesiynol, cyhoeddus yn yr un modd oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies, ond un a lafuriai'n aml yn y dirgel, gan ddylanwadu ar eraill a chyflawni gwyrthiau yn dawel dros Gymru a'r Gymraeg. Gan ei fod yn wr swil a diymhongar wrth natur ac yn hoffi byw ei fywyd yn yr encilion, nid pawb a werthfawrogai ei gyfraniad. Yn rhy aml o lawer, cofir am Gwilym Prys-Davies yn bennaf fel yr ymgeisydd aflwyddiannus y Blaid Lafur yn isetholiad nodedig sir Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966 pan gipiwyd y sedd gan Dr Gwynfor Evans, llywydd Plaid Genedlaethol Cymru ers 1945 - sef 'isetholiad pwysicaf yr ugeinfed ganrif' ym marn Ben Rees. Ym 1964 cafodd Gwilym Prys-Davies siom aruthrol na ddewiswyd ef yn ymgeisydd ar gyfer etholaeth sir Feirionnydd. Ond mae llawer iawn mwy i drafod, wrth gwrs. Fel y gwelwn, gwnaeth Gwilym waith arloesol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y llysoedd yn ystod y 1960au. Roedd hefyd yn un o'r selogion a frwydrodd i sefydlu S4C ym 1982, ac roedd ei gyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio Deddfau'r Iaith Gymraeg 1967 ac eto 1993. Roedd ei gyfraniad hefyd yn fwy cyffredinol yn sgil ei gefnogaeth i hybu datganoli yng Nghymru o'r 1960au ymlaen. Gweithredodd fel 'cynghorydd arbennig' i John Morris AS pan roedd yntau'n Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru yn y 1970au, roedd yn aelod gweithgar a dylanwadol o Fwrdd Ysbytai Cymru am flynyddoedd, a thaflodd ei hun i ganol bywyd Ty'r Arglwyddi gydag ymroddiad a brwdfrydedd. Enillodd barch ei gyd-arglwyddi yn fuan iawn, a phriodol iawn yw'r ffaith i Ben Rees gyflawni'r astudiaeth hon i'r Arglwydd John Morris. Mae Ben Rees yn ogystal wedi meistroli'n llwyr yr elfennau hynny a ddaeth ynghyd i greu personoliaeth a chymeriad ei wrthrych. Yn eu plith mae ei gefndir teuluol yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth, ei waith o fewn Mudiad Gweriniaethol Cymru, a'i berthynas agos a phwysig gyda Goronwy O. Roberts AS a Huw T. Edwards, ac mae nifer fawr o wleidyddion Llafur eraill yr ugeinfed ganrif yng Nghymru hefyd yn cael eu lle o fewn y stori ryfeddol hon. Llunnir y cyfan o'r testun mewn Cymraeg graenus a darllenadwy. Rhaid llongyfarch yr awdur ar gyhoeddi campwaith pwysig arall a fydd yn derbyn croeso cynnes gan nifer fawr o ddarllenwyr gwerthfawrogol. -- J. Graham Jones @ www.gwales.com
Book Information
ISBN 9781913996130
Author D. Ben Rees
Format Paperback
Page Count 342
Imprint Gwasg y Bwthyn Cyf
Publisher Gwasg y Bwthyn Cyf
Dimensions(mm) 210mm * 148mm * 22mm