Description
Reviews
Dyma lyfr lluniau newydd gan yr arlunydd a'r cartwnydd talentog Huw Aaron. Rydym yn gyfarwydd iawn a'i luniau a'i ddwdls sydd mewn nifer o lyfrau poblogaidd ac yng nghylchgrawn Mellten. Y tro hwn, Huw ei hun sydd wedi bod wrthi'n ysgrifennu'r stori yn ogystal a chreu'r lluniau. Dywedodd Huw fod y stori wedi bod yn ffrwtian yng nghefn ei ben ers blynyddoedd - wel o'r diwedd, dyma hi! Stori yw hon am ferch fach o'r enw Petra sy'n byw mewn dinas yn llawn pobl brysur iawn, iawn. Drwy'r dydd, pob dydd mae'r gweithwyr yn adeiladu tyrau uchel iawn sy'n ymestyn tuag at yr awyr. Yn wir, mae'r gweithwyr yn fy atgoffa o forgrug gwyn sy'n treulio eu bywydau'n adeiladu tomenni mawr. Mae Petra druan wedi diflasu ar y gwaith beunyddiol o adeiladu tyrau. Dechreua Petra gwestiynu'r drefn wrth iddi bendroni ynghylch y cwestiwn mawr athronyddol: oes 'na fwy i fywyd? Er bod oedolion pwysig yn ei siarsio i 'dyfu fyny' a 'derbyn y drefn,' yn ei chalon tydi hi methu rhoi'r gorau i freuddwydio. Un diwrnod, daw dynes i lawr o'r cymylau mewn balwn aer poeth ac aiff a Petra ar antur ar draws y byd i weld yr holl ryfeddodau sy'n bodoli. Tybed a fydd Petra'n gallu perswadio gweddill trigolion y ddinas fod mwy i fywyd nag adeiladu tyrau? Mae lluniau dyfrlliw Huw Aaron yn hyfryd o liwgar a cheir yma stori annwyl iawn gyda neges glir i blant ifanc (ac oedolion!) ei bod hi'n gwbl dderbyniol i gwestiynu'r drefn. Llwydda'r llyfr i gyfleu chwilfrydedd a rhyfeddod plant ynglyn a'r byd o'u cwmpas. Un o negeseuon yr awdur yw bod rhyfeddodau lu i'w canfod o'n cwmpas ym mhob man, dim ond i inni fentro a mynd ati i chwilio. Mewn ffordd, trosiad yw'r llyfr sy'n dangos sut mae bywyd modern wedi'n cyflyru i frysio o un lle i'r llall, gan weithio'n ddi-stop, heb gymryd amser i werthfawrogi ein byd yn llawn, a hwnnw reit o dan ein trwynau'n aml. Os am lyfr deniadol gyda stori hyfryd a neges gadarnhaol, Y Ddinas Uchel yw'r llyfr i chi. -- Morgan Dafydd @ www.gwales.com
Book Information
ISBN 9781913245047
Author Huw Aaron
Format Paperback
Page Count 32
Imprint Atebol Cyfyngedig
Publisher Atebol Cyfyngedig